logo Ysgol Cymerau

Apêl Parcio

Dyddiad: 2021-04-26

Mae amser danfon a chasglu wedi bod yn ddyrus yma yn Cymerau erioed, a phob blwyddyn byddwn yn gofyn i rieni barchu canllawiau'r ysgol, a pharcio mewn mannau ychydig pellach i ffwrdd na Ffordd Mela a Ffordd y Faenor. Dyma ein apel diweddaraf.

Mae maes parcio Lôn Cob Bach yn rhad ac am ddim, ac yn cynnig llwybr diogel yr holl ffordd i dir ysgol Cymerau.

Annogwn rieni i ddefnyddio'r maes parcio hwn yn ychwanegol i'r Prom wrth ddanfon eu plant yn y boreau, a'u casglu yn y prynhawn os yw'n bosibl.

Mae'r llwybr yn eich harwain yn ddiogel ar hyd Winllan Lloyd, hyd at geg lôn yr ysgol, ble bydd aelod o staff yn eich aros i'ch croesi'n ddiogel.

Gobeithiwn yn arw y cysidrwch ddefnyddio'r maes parcio a'r llwybr hwn ar gyfer eich taith i ac o'r ysgol o hyn ymlaen.

Diolch am eich cyd-weithrediad parhaus ar y mater.


Yn ôl i'r prif dudalen newyddion.