logo Ysgol Cymerau

Cyngor Ysgol

Mae’r Cyngor Ysgol wedi ei sefydlu ers rhai blynyddoedd yma yn Ysgol Cymerau bellach. Caiff ddylanwad gadarnhaol iawn ar rediad yr ysgol o ddydd i ddydd.

Mae gan blynyddoedd 3 -6 yr ysgol Gyngor Ysgol, ac yn ystod y flwyddyn cynhelir llawer o gyfarfodydd lle caiff y disgyblion gyfle i fynegi eu barn am drefn yr ysgol a chynnig syniadau ar sut i wella sefyllfaoedd amrywiol.

Cynhelir pleidlais ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, lle y rhoddir cyfle i bob disgybl ethol dau i gynrychioli’r dosbarth ar Y Cyngor Ysgol. Mae’r aelodau hyn yn cyfarfod o leiaf dwy waith y tymor i drafod syniadau’r Cyngor Ysgol ac i flaenoriaethu a phenderfynu ar raglen am y tymor. Disgwylir i’r cynrychiolydd adrodd yn ol i’r disgyblion am faterion a drafodwyd yn y cyfarfodydd.

Mae’r Cyngor Dosbarth a’r Cyngor Ysgol yn rhoi cyfle i’r disgyblion i wneud gwelliannau ac i ddatblygu’r ysgol er lles i bawb.

hoddir hefyd gyfle i ddatblygu sgiliau hanfodol fel cyfathrebu, gwrando, mynegi barn a datrys problemau.

Yn ogystal bydd cyfle i ddewis dwy elusen y flwyddyn i godi arian tuag ato. Un elusen leol ac un ehangach e.e Plant Mewn Angen. Rhoddir cyfle i’r Cyngor Ysgol drefnu gweithgareddau i godi arian, creu posteri ac ysgrifennu llythyrau i hysbysebu’r digwyddiad.

Aelodau 2020/2021

  • Porthdinllaen
  • Porthdinllaen
  • Porth Ysgaden
  • Porth Ysgaden
  • Porth Solfach
  • Porth Solfach
  • Porth Neigwl
  • Porth Cychod
  • Porth Colmon
  • Porth Colmon