logo Ysgol Cymerau

ELSA

Priosect ELSA

Pwrpas prosiect ELSA yw meithrin gallu mewn ysgolion i helpu i ddiwallu anghenion emosiynol eu disgyblion drwy ddefnyddio eu hadnoddau eu hunain. Mae’n cydnabod bod plant yn dysgu’n well ac yn fwy bodlon yn yr ysgol os yw eu hanghenion emosiynol yn cael eu diwallu hefyd.

Mae ELSA yn fenter sydd wedi’i datblygu a’i chynnal gan seicolegwyr addysgol sy’n cymhwyso gwybodaeth am ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant at feysydd angen penodol ac at waith achos penodol.

Yn Ysgol Cymerau, ein cymhorthydd ELSA yw Anti Vicky. Mae hi’n gwiethio’n galed er mwyn diwallu ein gweledigaeth yma. Bydd Anti Vicky yn defnyddio’r dudalen yma i rannu digwyddiadau a newyddion y grwp ELSA yn ogystal â rhannu adnoddau.

 

Adnoddau ELSA Ysgol Cymerau

Gweld y Da (pdf)

Cardiau ELSA (pdf)


Dyma Anti Vicky