logo Ysgol Cymerau

Archif Newyddion

Tarian Steffan 2019

I weld mwy o luniau - cliciwch yma


Stori a Chrefftau Carys Ofalus

plantI gael mwy o wybodaeth - cliciwch yma


Criw Celf Bach

plantI gael mwy o wybodaeth - cliciwch yma


Sialens Ddarllen yr Haf

plantI gael mwy o wybodaeth - cliciwch yma


Prom 2019

plantI weld mwy o luniau - cliciwch yma


Ffair Haf

plantDiolch anferthol i bawb a ddaeth i gefnogi a chyfrannu tuag at y Ffair Haf neithiwr. Casglwyd £952.34!


Gwobr Eco Ysgolion

posterLLONGYFARCHIADAU i griw Coed y Winllan ar ennill gwbr arbennig Eco Ysgolion yng nghystadleuaeth y Criw Mentrus yng Nhaerdydd!!


Criw Mentrus

posterLlongyfarchiadau i'r 4 fu'n cynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth y Criw Mentrus. Maent nawr yn mynd i'r rownd derfynol yng Nghaerdydd!!


Dyddiadau mabolgampau

Dyddiadau mabolgampauMabolgampau CA2 (dewis 1) - 25/06/19 (trwy'r dydd)
Mabolgampau CA2 (dewis 2) - 27/06/19 (trwy'r dydd)

Mabolgampau CS (dewis 1) - 28/06/19 (P'nawn)
Mabolgampau CS (dewis 2) - 05/07/19 (P'nawn)


Diwrnod gwisgo dillad eich hunain i'r ysgol

Tîm Darllen Dros GymruMae Karen Rees Siop Gwallt Kar'a'Lyns Hairdressing Salon yn cymryd rhan yn Marathon Ultra Pen Llyn (50 milltir) mis nesa' i gasglu arian tuag at Ysbyty Alder Hey. Caiff plant wisgo dillad eu hunain ddydd Gwener yma i gefnogi'r achos, gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad tuag at yr achos. Diolch yn fawr.


Trawsgwlad

BIG PEDAL 2019Gweler wybodaeth ynglyn â chystadleuaeth Trawsgwlad Dwyfor a fydd yn cael ei chynnal ar gaeau Ysgol Glan Y Mor Ddydd Llun Mai 20 am 16:30.

Bydd pawb sydd yn rhedeg yn cael medal. Nid oes angen cofrestru dim ond troi i fyny a rhedeg. Manylion pellach ar y poster.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Tîm Darllen Dros Gymru

Tîm Darllen Dros GymruLlongyfarchiadau i Dîm Darllen Dros Gymru Bl. 5 a 6, sydd wedi cael 1af allan o 26 ysgol yng Ngwynedd! Ymlaen rwan i’r gystadleuaeth genedlaethol yn Aberystwyth!


BIG PEDAL 2019

BIG PEDAL 2019Mawrth 25ain - Ebrill 5ed

Yn dilyn llwyddiant yr ysgol llynedd wrth ddod yn gyntaf yn ysgolion mawr Cymru, byddwn unwaith eto yn cymryd rhan yn y Big Pedal 2019!

Ar bob diwrnod o'r her bydd ysgolion yn cystadlu i weld pwy all gofnodi'r nifer mwyaf o ddisgyblion, staff a rhieni sydd yn beicio, sgwterau a cerdded i'r ysgol.

I weld trefniadau Big Pedal 2019 - cliciwch yma

I weld mwy o luniau - cliciwch yma


Enillwyr cystadleuaeth dylunio baner Diogelwch y Ffordd

posterEnillwyr cystadleuaeth dylunio baner Diogelwch y Ffordd ar gyfer Ffordd y Faenor. Diolch yn fawr iawn i bawb am gystadlu a diolch hefyd i Shirley Williams (Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd) am feirniadu.

 

 


Diwrnod Trwynau Coch 2019

posterGweler y poster am fwy o wybodaeth - cliciwch yma

I weld mwy o luniau - cliciwch yma

 

 


Ymweliad yr AS Liz Saville Roberts a Chynghorwyr Lleol

posterLluniau ymweliad yr AS Liz Saville Roberts a Chynghorwyr Lleol i edrych ar adeilad Ysgol Cymerau. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu hamser i gefnogi yr ysgol.

 

 


Flwyddyn newydd Tsieineaidd

posterPawb wedi mwynhau cinio arbennig i ddathlu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd heddiw. Diolch i Anti Janice a merched y gegin am ei baratoi!

 


GWELLA DIOGELWCH Y FFYRDD Y TU ALLAN I'R YSGOL

poster

NEGES BWYSIG: Gofynnwn yn garedig i chi beidio a pharcio ar y llinellau igam-ogam nag ar Ffordd y Faenor i godi a chasglu eich plentyn/plant os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.


 

Dyddiadau Sioeau Nadolig

posterDyddiadau Sioeau Nadolig Ysgol Cymerau, 2018.

 


Ffair Lyfrau

poster

Ffair Lyfrau Book People yn Nerbynfa'r Ysgol o ddydd Mercher 5ed o Ragfyr tan ddydd Llun y 10fed o Ragfyr rhwng 3:00 a 4:00. Dewch draw!


RAFFL FAWR Y ‘DOLIG

poster

Mae tocynnau dal ar gael i'w prynu yn y llefydd isod:

Post Bach South Beach
Kar'a'Lyns
SOLO
Derbynfa'r Ysgol

£1 yr un, neu £5 am lyfr

Os oes ganddoch ddiddordeb mewn gwerthu tocynnau, dewch draw i dderbynfa'r ysgol. Caiff y raffl ei dynnu yn Sioe Nadolig Bl. 5 a 6 ar y 13/12/18.

Diolch yn fawr.


Diolch o galon

poster

Diolch o galon i holl blant, staff, rhieni a ffrindiau Ysgol Cymerau am gefnogi’r Ffair Nadolig neithiwr! Diolch hefyd i’r holl fusnesau lleol sydd wedi cyfrannu mor hael tuag at wobrau ar gyfer y rafflau. Diolch arbennig hefyd i Mr Seimon Glyn a Jo Scott, Asda Pwllheli am ymuno hefo ni. Rydym yn gwerthfawrogi pob ceiniog yn fawr iawn er mwyn prynu adnoddau TGCh newydd i’r plant. Diolch yn fawr iawn.


Y Gwystl

Y GwystlDiolch i griw Y Gwystl am groesawu criw Bl.6 y Cyngor Ysgol wythnos diwethaf!

I weld mwy o luniau - cliciwch yma


Ffair Nadolig

poster

Gofynnwn yn garedig am unrhyw eitemau ar gyfer tombola, raffl neu hamperi erbyn bore Mercher, Tachwedd 28ain os bosibl os gwelwch yn dda. Hefyd, byddwn yn ddiolchgar iawn o unrhyw gyfraniad o gacennau, bach neu fawr, tuag at y stondin gacennau.

Diolch yn fawr.

 


PLANT MEWN ANGEN

posterThanks to everyone who contributed today, and helped us raise this brilliant amount!!

 


DIOLCH

poster100 bocs wedi mynd i Apêl Bocsys Nadolig T4U!

 


Diwrnod Plant mewn Angen. Dydd Gwener yma 16/11/18

posterMae croeso i bawb wisgo pyjamas i’r ysgol am gyfraniad o £1. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o gacennau bach i werthu yn yr ysgol am 50c yr un ar y diwrnod hefyd! Cofiwch ddod a pres hefo chi i brynu cacen. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 


 

03.09.18 Gwyl Y Nant

poster Gwahoddiad gan Nant Gwrtheyrn.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 


03.09.18 Labelu

posterCofiwch labelu pob eiddo os gwelwch yn dda

 


03.09.18 Clwb Brecwast

posterGwybodaeth bwysig am y Clwb Brecwast a Chlwb ar ôl ysgol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


20.07.18 DIOLCH

plant

Dymuna holl staff yr ysgol ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn ac am eich caredigrwydd a'r holl anrhegion ddiwedd tymor! Bydd yr ysgol yn ail-agor ddydd Mawrth, Medi'r 4ydd. Diolch!


09.07.18 Dyddiad Prom Bl. 6

Prom Blwyddyn 6 ar Ddydd Iau, 12fed o Orffennaf!


04.07.18 Trefn Mabolgampau CA2 2018

plant

Cliciwch yma i weld yr amserlen.


21.06.18 Calendr Tymor yr Haf.

plant

Cliciwch yma i weld y calendr.


18.05.18 Cyfanswm Ffair Wanwyn Ysgol Cymerau - £748,01

plant

Hoffai staff yr ysgol â phlant Y Cyngor Ysgol ddiolch yn fawr i bawb a gefnogodd Y Ffair Wanwyn. Diolch arbennig i’r holl fusnesau lleol a gyfrannodd yn hael tuag at y raffl.

Casglwyd £748.01 tuag at yr Ysgol a Hosbis Dewi Sant. Diolch yn fawr iawn.


16.04.18 Big Pedal 2018

posterMwy o wybodaeth i ddilyn .......


 

16.03.18 Gwynedd Ddigidol | Digital Gwynedd

posterBydd Gwynedd Ddigidol | Digital Gwynedd yn mynychu ein nosweithiau rhieni wythnos nesaf er mwyn hyrwyddo system talu ar-lein yr ysgol. Bydd Anti Sharon hefyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a'ch cynorthwyo i sefydlu eich cyfrif.

Cliciwch yma i weld y poster


14.03.18 Diwrnod y Llyfr 2018

I weld mwy o luniau - cliciwch ymaposter


08.03.18 Diwrnod y Llyfr

Bydd diwrnod y llyfr yn cael ei ail-drefnu at ddydd Llun, 12fed o Fawrth. Diolch. poster

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


05.02.18 Sêr yr wythnos CA2 02/02/18. Da iawn!

poster

 

09.01.18 At sylw rieni plant blwyddyn 3 a 4

posterCliciwch yma am fwy o wybodaeth


18.12.17 Clwb Cymerau

plant


Gweler newidiadau i delerau Clwb Brecwast a Chlwb Cymerau isod.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen cofrestru plentyn



23.11.17 T4U

75 o focsys wedi cael eu casgu at apel bocsys ‘sgidia’ T4U ‘leni! Diolch i bawb am eu cefnogaeth!


17.11.17 Plant Mewn Angen

Diwrnod Plant Mewn Angen llwyddiannus eto eleni. Diolch i bawb am ein helpu i godi £414.00 drwy wisgo i fyny a chymryd rhan yn y Sioe Dalentau! Bu i Pudsey ag Aled Hughes BBC Radio Cymru sdopio heibio ar ei daith feics hefyd! Diolch!


10.11.17 Archebion Lluniau

Mae'n rhaid i archebion lluniau Ysgol Gwynant Parri gael eu dychwelyd i'r ysgol erbyn dydd Llun, 13eg o Dachwedd os gwelwch yn dda.


10.11.17 Ysgol Cymerau ar S4C!

Cofiwch wylio S4C heno er mwyn gweld criw Ysgol Cymerau yn cymryd rhan yn rhaglen Pigo dy Drwyn!


09.10.17 Tlws Presenoldeb Perffaith Mis Medi 2017

ser yr wythnosEnillwyr Tlws Presenoldeb Perffaith mis Medi 2017 yw dosbarth Blwyddyn 5/6 Miss Eleri Thomas gyda 97%. Llongyfarchiadau!


06.10.17 Sêr yr Wythnos CA2

ser yr wythnosDa iawn pawb!


29.09.17 Sêr yr Wythnos CA2

ser yr wythnosArdderchog!


22.09.17 Sêr yr Wythnos CA2

ser yr wythnosArdderchog!


22.09.17 Baton y Gymanwlad

batonI weld mwy o luniau - cliciwch yma


22.09.17 Calendr 2017-18

Dyddiadau hyd yma - cliciwch yma


07.09.17 Bwydlen Ysgolion Cynradd 2017 - 2018

bwydlenBwydlen Ysgolion Cynradd 2017-18 - cliciwch yma

Cyngor Gwynedd - cliciwch yma


29.08.17 Pris cinio ysgol

Pris cinio ysgol o fis Medi 2017 ymlaen fydd £2.50 y dydd.

15.08.17 YouTube Llywodraeth Cymru

Gwyliwch y fideos ar-lein drwy chwilio am Adnoddau Mathemateg ar Sianel You Tube Llywodraeth Cymru http://www.youtube.com/user/welshgovernment


15.08.17 Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref

I weld wybodaeth am hyn - cliciwch yma


24.07.17 Diolch o galon!

Dymuna holl staff yr ysgol ddiolch yn fawr iawn i rieni'r ysgol am eich cefnogaeth drwy gydol a flwyddyn ac am y caredigrwydd a'r holl anrhegion ddiwedd tymor! Diolch o galon!


18.07.17 Cyfanswm Ffair Haf Ysgol Cymerau - £1,158.50 !

plant


Swm anhygoel o £1,158.50 wedi cael ei gasglu yn y Ffair Haf heno! Diolch o galon i bawb am eich cyfraniad a'ch cefnogaeth i'r ysgol! Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr!


04.07.17 Ffair Haf Ysgol Cymerau

plant


Ffair Haf Ysgol Cymerau nos Fawrth, Gorffennaf 18fed 16:30-19:30. Dewch yn llu!

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


19.06.17 Calendr Tymor yr Haf 2017

plant

Gweler Calendr Diwygiedig Tymor yr Haf 2017

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


25.04.17 COFRESTRU DISGYBLION AR GYFER MIS MEDI 2017

Mae'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru disgyblion wedi pasio. Er hyn mae'n dal yn bosib i chwi wneud cais ar gyfer eich plentyn i'r dosbarth Meithrin neu'r dosbarth Derbyn.

Cysylltwch gyda'r ysgol am ffurflen neu fe allwch gwblhau'r ffurflen gais ar lein:

http://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Ysgolion-a-dysgu/Mynediad-i-ysgolion.aspx

18.04.17 Bydd yr ysgol yn ail-agor ar gyfer Tymor yr Haf ar ddydd Llun, Ebrill 24ain.


14.03.16 Nosweithiau Rhieni Derbyn-Bl.6 wythnos nesaf wedi eu gohirio

Nosweithiau Rhieni Derbyn-Bl.6 wythnos nesaf wedi eu gohirio. Ail-drefnu ar gyfer nos Lun 27/3/17 a nos Fercher 29/3/17. Amseroedd i ddilyn. Ymddiheuriadau.


06.03.17 Ffair Wanwyn Ysgol Cymerau

plant

Cofiwch am ein Ffair Wanwyn nos Fercher yma 4-6y.p! Bydd yr holl elw yn mynd tuag at taith Bl.6 i Gaerdydd.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


28.02.17 Dydd Gwyl Dewi

dydd gwyl dewi

Mae croeso i'r plant wisgo gwisg draddodiadol Gymreig, dillad coch, gwyn a gwyrdd neu unrhyw beth sy'n ymwneud a Chymru yfory i ddathlu Dydd Gwyl Ddewi.



15.02.17 Ffair Wanwyn Ysgol Cymerau

plant

Nos Fercher, Mawrth 8fed 4-6y.p

Cynhelir gan blant Blwyddyn 6

Mae plant Blwyddyn 6 yn cynnal Ffair Wanwyn i hel pres at drip Caerdydd - cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Poster Ffair Wanwyn - cliciwch yma


06.02.17 Calendr

plantCalendr Tymor y Gwanwyn 2017 - cliciwch yma

19.12.16 Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl rieni, plant a staff Ysgol Cymerau! Bydd yr ysgol yn ail-agor i blant ar ddydd Mercher, Ionawr 4ydd 2017.


15.12.16 Ffair Nadolig Cymerau

plant Nos Iau, Rhagfyr 15fed am 6 o'r gloch. Croeso cynnes i bawb! Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


09.11.16 Cyfarfodydd Ysgolion

Newidiadau Posib i Ysgolion Gwynedd - cliciwch yma


24.10.16 Ysgol yn Ail-Agor

Bydd yr ysgol yn ail agor i ddisgyblion ar ddydd Mawrth, Tachwedd 1af 2016.


17.10.16 Tynnu Lluniau Unigolion a Theuluoedd

Bydd Gwynant Parri yn yr ysgol dydd Iau, Hydref 20fed i dynnu lluniau unigolion a theuluoedd o 8:30am ymlaen. Mae croeso i chi ddod a phlant iau nag oed ysgol yn ystod y bore os yn berthnasol.

plant


06.10.16 Calendr Cymerau

Calendr Cymerau 2016-17. Dyddiadau hyd yma! - cliciwch yma


04.10.16 Cefnogi Elusen Macmillan

plant Bore Gwener Medi 30ain cynhaliwyd bore coffi Macmillan yn neuadd yr Ysgol. Daeth nifer o ffrindiau'r ysgol i gefnogi a hefyd gwerthwyd cacennau i'r disgyblion. Casgwlyd £560 tuag at yr elusen. Diolch i bawb am gefnogi!
Cliciwch yma
am fwy o luniau


03.10.16 Cefnogi Elusen Macmillan

plant £560 wedi cael ei gasglu tuag at elusen Macmillan heddiw 30/9/16. Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi!


30.08.16 Cyrsiau Cymraeg i oedolion

posterAm fwy o wybodaeth - cliciwch yma


30.08.16 Bydd Ysgol Cymerau yn ail agor i ddisgyblion Dydd Llun, Medi 5ed 2016.

llyfrauBydd Ysgol Cymerau yn ail agor i ddisgyblion Dydd Llun, Medi 5ed 2016. Edrychwn ymlaen i groesawu pawb yn ôl!

Atgoffa: Mae Cyngor Gwynedd wedi cynyddu pris cinio ysgol i £2.30 y dydd/£11.50 yr wythnos.


04.07.16 Gwneud bara

plant Bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn arbrofi drwy bobi bara amrywiol gyda cynhwysion o'u dewis.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


09.06.16 Diwrnod Ffrengig - Dydd Gwener, Mehefin 10fed

poster
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


05.05.16 Noson Diogelwch ar y Rhyngrwyd i Rieni Dydd Mawrth Mai 10fed

poster
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


14.04.16 Elusen Awyr Las

poster
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

24.03.16 Nodyn Atgoffa - Cyfarfod Cymdeithas Rieni
Cyfarfod Cymdeithas Rieni yn Y Fic Pwllheli, nos Iau, 14 Ebrill 8pm. Dewch yn llu!


18.03.16 Darganfod Mwy Ar-lein...

poster
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


18.03.16 Adroddiad Arolygiad Estyn

Erbyn hyn mae adroddiad Arolygiad Estyn ar eu safwe. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.

 

04.12.15 Arolygiad Estyn

Estyn yn dod i arolygu Ysgol Cymerau – 11/01/16 tan 14/01/16.

Linc holiadur rhieni:

http://vir.estyn.gov.uk/default.aspx

Bydd angen i bob holiadur fod wedi ei lenwi erbyn dydd Gwener 11/12/15.


25.11.15 Mynediad i Ysgol Gynradd Medi 2016

mynediad ysgolion
Mynediad i Ysgol Gynradd Medi 2016

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


16.11.15 Nosweithiau Rhieni

Diolch i holl rieni'r ysgol am fynychu'r Nosweithiau Rhieni wythnos yma. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr! Mae croeso hefyd i chi ffonio'r ysgol i ail-drefnu os nad oedd modd i chi fod yn bresennol.


13.11.15 Plant Mewn Angen

£516.91 wedi ei gasglu tuag at Plant Mewn Angen heddiw! Diolch i bawb am gyfrannu.


05.10.15 GOHIRIO - Ymweliadau i Ynys Enlli

Oherwydd y rhagolygon tywydd, mae ymweliadau Bl.5/6 i Ynys Enlli dydd Llun a Mawrth nesaf (5-6/10/15) wedi eu gohirio am y tro.


14.09.15 Apêl Canser Macmillan

Llwyddwyd i godi £310.00 heddiw 11/9/15 tuag at Apêl Canser Macmillan! Diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu!


02.09.15 Croeso Nôl!

Croeso nôl i holl blant a staff yr ysgol ar ddydd Mercher, Medi 2il 2015!

Gwisg ysgol ar gael nawr o swyddfa'r ysgol!
Siwmperi £10 / Crysau Polo £8

 

28.08.15 Cystadleuaeth Poster

Cystadleuaeth Poster
Enillwyr Cystadleuaeth Poster Trenau Arriva Cymru Bl.5 a 6 2015


28.08.15 Ysgol yn ail-agor

Bydd yr ysgol yn ail-agor i ddisgyblion ar ddydd Mercher, Medi 2il, 2015

Cliciwch yma am ddyddiadau tymhorau


06.07.15 Code Club

Llongyfarchiadau mawr i Mari Williams (Blwyddyn 6) am ddod yn 2il yng nghystadleuaeth Code Club yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn ddiweddar.
I weld lluniau'r diwrnod ewch i'r Galeri.


06.07.15 Rasus Cyfnewid CA2
Rasus Cyfnewid CA2 wedi cael eu hail-drefnu ar gyfer pnawn Llun, Gorffennaf 6ed.


02.07.15 Dyddiad i gofio
Ffair Haf Ysgol Cymerau
Nos Iau, Gorffennaf 9fed rhwng 5:00 a 7:00 o'r gloch Mynediad - 50c


27.05.15 Y Gân Actol

logo urddDa iawn i griw y Gân Actol a fu'n perfformio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili Ddydd Llun 25.05.15.

Cliciwch yma i'w gweld ar S4C - ar 58:25 munud mae Cymerau yn cael ei ddangos!

 


26.05.15 Pypedau!

pypedau

Llongyfarchiadau mawr iawn i Tom, Dion, Charlie, Danial, Daisy, Courtney, Katie, Owen, ac Osian (Blwyddyn 2) am ddod yn 1af yn yr Eisteddfod gyda'u
Pypedau Grŵp!

Gwych!

 


07.05.15 Casglu Arian at Gronfa'r Urdd

logo urddCynhelir Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd (am gyfraniad o £1) a stondin gacennau i gasglu arian tuag at Gronfa'r Urdd ar Ddydd Gwener, Mai 15fed. Am fwy o fanylion cliciwch yma.

 


05.05.15 Profion Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn cymryd lle wythnos yma i Flynyddoedd 2-6.
Mwy o wybodaeth am y profion ar gael yn yr Adran Llythyrau


21.04.15 Blwyddyn 6 yng Nghaerdydd

Trip i Gaerdydd
Croeso nôl i blant Blwyddyn 6 ar ôl bod yng Nghaerdydd wythnos diwethaf!
Pawb wedi mwynhau ac wedi cael amser gwych!

I weld y lluniau, cliciwch yma


LLYTHYR - Gwyl Dewi a Diwrnod y Llyfr


Diolch i bawb!
gyfranodd tuag at Diwrnod Cenedlaethol Gwisgo Coch. Llwyddwyd i godi £404.05 tuag at Cronfa Bobbi Rees, Uned y Galon, Ysbyty Alderhey.


Tan-y-Bwlch

Taith preswyl Blwyddyn 5 i Blas Tan-y-Bwlch wedi cael ei ail-drefnu ar gyfer Mawrth 11-12, 2015.


Cofrestru ar gyfer Medi 2015

Gwybodaeth i Rieni – cliciwch yma


13.02.15 - Diwrnod HMS Staff

Cofiwch y bydd yr ysgol ar gau ddydd Gwener, Chwefror 13eg, 2015 ar gyfer diwrnod HMS Staff.


Remember that the school will be closed on Friday, 13th February for Staff INSET day.


06.02.15 - Diwrnod Gwisgo Coch

Cofiwch wisgo coch ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Gwisgo Coch ar Chwefror 6ed, 2015!
Bydd eich cyfraniad yn mynd tuag at Ysbyty Plant AlderHey.


Remember to wear red on National Wear Red Day - February 6th, 2015

Your donation will go towards AlderHey Children's Hospital.