logo Ysgol Cymerau

Gwybodaeth

Llawlyfr Ysgol Cymerau

Llawlyfr yma'n fuan...

Am gopi caled o lawlyfr yr ysgol mae groeso i chi gysylltu â’r ysgol.


Arolygiad Estyn Ionawr 2016

Erbyn hyn mae adroddiad Arolygiad Estyn ar eu safwe. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.

 

Lefelau Cwricwlaidd a'r Fframwaith Cenedlaethol - cliciwch yma

 

 

Cynlluniwyd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i helpu athrawon i wneud llythrennedd a rhifedd yn rhan naturiol o bob pwnc ar gyfer dysgwyr rhwng 5 a 14 oed.

Mae'r FfLlRh yn pennu'r sgiliau rydym yn disgwyl i ddysgwyr eu datblygu. Ym maes llythrennedd rydym yn disgwyl i ddysgwyr ddod yn fedrus yn y canlynol:

  • llafaredd ar draws y cwricwlwm
  • darllen ar draws y cwricwlwm
  • ysgrifennu ar draws y cwricwlwm.

Ym maes rhifedd rydym yn disgwyl i ddysgwyr ddod yn fedrus yn y canlynol:

  • datblygu sgiliau rhesymu rhifol
  • defnyddio sgiliau rhifau
  • defnyddio sgiliau mesur
  • defnyddio sgiliau data.

Bydd athrawon yn gallu defnyddio'r FfLlRh i wneud y canlynol:

  • datblygu'r cwricwlwm i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd i ddatblygu ac i fireinio'r sgiliau a bennir yn y FfLlRh
  • integreiddio llythrennedd a rhifedd yn eu haddysgu - beth bynnag fo'r pwnc
  • llywio trafodaethau gyda rhieni/gofalwyr, dysgwyr ac athrawon eraill ynglyn â pherfformiad dysgwyr
  • helpu dysgwyr gyda'u gweithgarwch hunanasesu eu hunain a chyda chynllunio ar gyfer dysgu
  • monitro, asesu ac adrodd yn ôl ynghylch perfformiad dysgwyr
  • nodi dysgwyr a fyddai o bosibl yn elwa ar ymyriad neu'r rhai y mae eu gwaith y tu hwnt i'r disgwyliad ar gyfer eu hoedran.

Llythrennedd - Darllen ar draws y cwricwlwm - cliciwch yma
LLythrennedd - Llafaredd ar draws y cwricwlwm - cliciwch yma
Llythrennedd - Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm - cliciwch yma
Rhifedd - cliciwch yma

Helpwch eich plant i ymarfer eu Cymraeg trwy fwynhau rhaglenni Cymraeg ar deledu, arlein ac ar alw.

Mwy o wybodaeth, cliciwch yma.