logo Ysgol Cymerau

Diolch Rhieni

Dyddiad: 2021-01-15

Nodyn sydyn i ddiolch yn fawr i chi am gyd-weithio gyda ni dros y bythefnos diwethaf. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, a hoffwn ddiolch i chi am fod yn amyneddgar, ac am ddyfalbarhau gyda'r gwaith dysgu adref ac o bell. Cofiwch os oes angen gwybodaeth neu cymorth arnoch, cysylltwch â ni drwy'r ffyrdd arferol. Gyda'n gilydd gallwn barhau i ddarparu’r addysg orau bosib o dan yr amgylchiadau. Cofiwch os nad oes gennych ddyfeisiadau i weithio ar-lein adref, mae croeso i chi gysylltu hefo’r ysgol. Mae yna nifer cyfyngedig o offer ar gael.


Yn ôl i'r prif dudalen newyddion.