logo Ysgol Cymerau

Diweddariad | Update

Dyddiad: 2021-01-05

Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth drwy'r cyfnod dyrus a sydyn yma.  

Dyma ambell bwynt i'w nodi:

📆Gallwn gadarnhau bellach yn unol â chanllwiau Llywodraeth Cymru y bydd pob ysgol yng Nghymru yn dysgu 'o bell' hyd at 18fed o Ionawr.   

📚Mae adnoddau dysgu Bl. 3,4,5 a 6 wedi cael eu rhannu ar ddosbarthiadau Google Classroom, a gwaith ar gyfer Meithrin, Derbyn 1 a 2 wedi ei anfon ar e-bost. 

👦🏻🧒🏾 Bydd darpariaeth ar gael i blant gweithwyr hanfodol. 

🌐 Mae adnoddau a chanllawiau ychwanegol ar sut i ddefnyddio rhaglenni dysgu o bell ar gael ar ein gwefan.  

💻 Cofiwch bod gan bob plentyn mewn ysgol yng Nghymru gyfrif Hwb yn rhad ac am ddim, sy'n cynnwys llwyth o adnoddau a rhaglenni.  Os am gymorth gyda Hwb, e-bostiwch ni ar hwb@ysgolcymerau.org 

Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiwn neu ymholiad drwy'r ffyrdd arferol. 

Diolch o galon


Yn ôl i'r prif dudalen newyddion.