logo Ysgol Cymerau

Diwrnod Siwmper a Chinio Nadolig

Dyddiad: 2020-12-09

Hoffwn eich atgoffa bydd Anti Janice a staff y gegin yn coginio cinio Nadolig i’r plant ar Ddydd Mercher 16/12/2020. Fe fydd croeso i bawb wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol ar y diwrnod yma, gweler isod lythyr gan y Cyngor Ysgol:

 

Annwyl Rieni/Gwarchodwyr,

Rydym ni fel Cyngor Ysgol wedi penderfynu casglu arian ar gyfer elusen ‘Gafael Llaw’. Sefydlwyd yr elusen er mwyn cefnogi plant a theuluoedd gyda canser yng Ngogledd Cymru.

Gan ein bod yn gwisgo siwmper Nadolig ddydd Mercher nesaf i gael cinio Nadolig, roeddem yn teimlo y byddai hyn yn gyfle da i ofyn yn garedig am gyfraniad o £1 tuag at yr elusen. Nid oes rheidrwydd o gwbl i gyfrannu, eich dewis chi yw hynny.

Diolch am eich cefnogaeth,

Cyngor Ysgol Cymerau


Yn ôl i'r prif dudalen newyddion.