logo Ysgol Cymerau

PWYSIG

Dyddiad: 2021-01-04

Ymddiheuriadau mawr am fod yn fyr rybudd. Yn ystod y dydd ddoe ac yna bore 'ma, mae Undeb athrawon yr NEU wedi cynghori eu aelodau i beidio mynychu'r ysgol o ran diogelwch, mewn ymateb i sefyllfa gynyddol bryderus Covid 19. Gan fod y mwyafrif helaeth o staff Ysgol Cymerau yn perthyn i'r Undeb yma, fe fydd yr ysgol ar gau i blant ar gyfer gweddill yr wythnos gan symud y dysgu ar-lein.

Mae e-bost wedi ei yrru i rieni a gwarchodwyr gyda mwy o wybodaeth ynglyn a gofal i blant gweithwyr hanfodol.

Unwaith eto, ymddiheurwn o waelod calon am unrhyw anghyfleustra bydd hyn yn ei achosi. Byddaf yn cadw mewn cysylltiad er mwyn eich diweddaru o'r sefyllfa.


Yn ôl i'r prif dudalen newyddion.