logo Ysgol Cymerau

Yr Wcrain

Dyddiad: 2022-03-15

AR RAN CYNGOR YSGOL CYMERAU

Annwyl Rieni/Gofalwyr,
Mae’r cyngor ysgol wedi penderfynu ceisio helpu plant a theuluoedd yn yr Wcráin.
Fe fydd croeso i’r plant ddod i’r ysgol yn gwisgo lliwiau melyn a/neu glas dydd Gwener nesaf,
Mawrth 18fed. Gofynnwn yn garedig i’r plant dalu unrhyw gyfraniad hefo nhw tuag at yr achos i’r
ysgol.


Diolch yn fawr.


Yn gywir,
Mr Jones gyda Lois a Carwyn ar ran y Cyngor ysgol.


Yn ôl i'r prif dudalen newyddion.